Rhif y ddeiseb: P-06-1417

Teitl y ddeiseb:  Dylid gwahardd tân gwyllt o siopau

Geiriad y ddeiseb:  Dylid rhoi’r gorau i werthu tân gwyllt mewn siopau, gan y gallant ddychryn a lladd anifeiliaid a brifo pobl.


1.        Y gyfraith ynghylch gwerthu tân gwyllt, bod yn berchen arno, a’i ddefnyddio.

Mae cyfyngiadau ar werthu tân gwyllt, bod yn berchen arno, a’i ddefnyddio. O dan y Ddeddf Ffrwydron 1875 (fel y'i diwygiwyd), mae'n anghyfreithlon cynnau tân gwyllt mewn stryd neu fan cyhoeddus ac mae'r Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 yn rhoi sylw i sŵn o gartrefi neu erddi rhwng 11pm a 7am. Os yw'r sŵn yn uwch na’r lefelau a ganiateir, mae gan swyddog iechyd yr amgylchedd yr hawl i gyflwyno hysbysiad rhybuddio i'r person sy'n gyfrifol. Os yw’r person dan sylw yn anwybyddu’r hysbysiad, gellir ei erlyn.

 

Roedd Deddf Tân Gwyllt 2003 yn rhoi pwerau i Lywodraeth y DU wneud rheoliadau ar gyflenwi, meddiannu a defnyddio tân gwyllt.

A hwythau wedi'u cyflwyno o dan Ddeddf 2003, roedd Rheoliadau Tân Gwyllt 2004 yn ceisio mynd i'r afael â'r defnydd gwrthgymdeithasol o dân gwyllt.  Mae’r Rheoliadau yn gwahardd masnachwyr nad oes ganddynt drwydded rhag gwerthu tân gwyllt i'r cyhoedd, ac eithrio ar ddyddiau sy’n gysylltiedig â 'nosweithiau tân gwyllt a ganiateir' (sef, y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, Diwali, Noson Tân Gwyllt a'r Flwyddyn Newydd). Maent hefyd yn gwahardd gwerthu tân gwyllt sydd â lefelau sŵn dros 120 desibel, ac yn ei gwneud yn drosedd i ddefnyddio tân gwyllt ar ôl 11pm a chyn 7am heb ganiatâd. Mae’r amseroedd yn cael eu hymestyn ar nosweithiau tân gwyllt a ganiateir.

Mae Rheoliadau Eitemau Pyrotechnegol (Diogelwch) 2015 yn ymwneud â diogelwch tân gwyllt fel cynnyrch defnyddwyr, ac yn nodi pa eitemau y gellir eu darparu i’r cyhoedd, cyfyngiadau oedran penodol, a pha rai y gellir ond eu cyflenwi i’r rhai sydd â gwybodaeth arbenigol.

Er nad oes gan Weinidogion Cymru gymhwysedd gweithredol o dan Ddeddf Tân Gwyllt 2003 i wneud rheoliadau, o ran cymhwysedd deddfwriaethol nid yw’r sefyllfa mor bendant, ac nid yw’n rhywbeth nad oes gan y Senedd bŵer i’w wneud.

2.     Camau a gymerwyd

2.1.          Cymru

Mae'r Pwyllgor wedi ystyried yn flaenorol ddeiseb a oedd yn galw am wahardd tân gwyllt rhag cael ei werthu i’r cyhoedd.

Yn ei ymateb i’r ddeiseb, eglurodd Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

“Mae pwerau i reoleiddio gwerthu a defnyddio tân gwyllt yng Nghymru a Lloegr yn bodoli o dan Ddeddf Tân Gwyllt 2003. Ar hyn o bryd Gweinidogion Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y pwerau hyn, yn benodol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS).”

Mewn gohebiaeth â’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn 2021, dywedodd Lesley Griffiths, cyn-Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig hefyd fod pwerau i wneud rheoliadau a oedd ym meddiant yr Ysgrifennydd Gwladol yn ei gwneud hi’n anodd adlewyrchu yng Nghymru y rheoliadau a wnaed yn ddiweddar gan Lywodraeth yr Alban, a oedd yn tynhau amodau gwerthu a defnyddio tân gwyllt. Cododd hefyd y posibilrwydd o drosglwyddo pwerau i Weinidogion Cymru, gan ganiatáu i Lywodraeth Cymru wneud rheoliadau o’r fath.

Mewn ymateb, dywedodd Gweinidog y DU dros Fusnesau Bach, Defnyddwyr a Marchnadoedd Llafur ar y pryd:

I remain committed to considering if it would be appropriate for the Welsh Government to be given additional powers in respect of fireworks. Before advancing on this matter, I would want to wait until the outcomes of commitments the Government has made and the impact of the changes the Scottish Government have implemented have been evaluated.

Mae Aelodau o’r Senedd hefyd wedi codi'r posibilrwydd o greu rheoliadau llymach gyda Llywodraeth Cymru yn ystod sesiynau cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn, ac mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud:

Un o'r pethau gyda thân gwyllt yw ei fod yn faes sydd wedi'i gadw'n ôl at ei gilydd.  Os bwriedir gweithredu cyfyngiadau llymach ar werthu a defnyddio tân gwyllt, wrth gwrs, maent yn digwydd yng nghyd-destun y meysydd a gedwir yn ôl. Mae yna rai meysydd lle gallwn weithio ynddynt […] Rydym bob amser wedi bod yn glir ein bod yn cefnogi rheoliadau llymach i ategu'r defnydd cyfrifol o dân gwyllt a'i oblygiadau ar gyfer materion datganoledig

Amlinellodd Llywodraeth Cymru ymhellach ei chefnogaeth i reoleiddio llymach yn ei dogfen Cynllun Sŵn a Seinwedd i Gymru. Mae’r Cynllun yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru “yn credu bod y ddeddfwriaeth bresennol yng Nghymru a Lloegr yn ddigonol i ddiogelu  pobl agored i niwed ac anifeiliaid rhag effeithiau sŵn tân gwyllt”.

Roedd adroddiad gan y BBC, ym mis Tachwedd 2023 yn nodi bod 14 o gynghorau yng Nghymru wedi ymrwymo i bolisïau a gefnogir gan y RSPCA i gadw anifeiliaid yn ddiogel.

2.2.        Yr Alban

Fel y cyfeiriwyd ato yn yr ohebiaeth uchod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno ei rheoliadau ei hun ynghylch defnyddio tân gwyllt.

Mae Rheoliadau Tân Gwyllt (Yr Alban) 2004, fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau Tân Gwyllt (Yr Alban) Diwygiadau Amrywiol 2021 newydd, yn rheoli'r ffordd y gall y cyhoedd ddefnyddio a chael mynediad at dân gwyllt defnyddwyr, fel, yr adegau pan ellir eu defnyddio a swm y tân gwyllt y gall manwerthwyr eu gwerthu i unigolion nad oes ganddynt drwydded ffrwydron.

Roedd Deddf Tân Gwyllt ac Eitemau Pyrotechneg (Yr Alban) 2022 yn cyflwyno system drwyddedu, pwerau i awdurdodau lleol ddynodi parthau rheoli tân gwyllt, cyfyngiadau ar gyflenwi a defnyddio tân gwyllt, a throsedd newydd o ran troseddoli’r arfer o gyflenwi tân gwyllt ac eitemau pyrotechneg i rai o dan 18 mlwydd oed.

3.     Deisebau'r DU

Mae Pwyllgor Deisebau Tŷ’r Cyffredin wedi ystyried sawl deiseb am gamddefnyddio tân gwyllt a chyflwynodd adroddiad ym mis Tachwedd 2019. Ni allai'r adroddiad argymell gwaharddiad ar werthu tân gwyllt i’r cyhoedd, ac eglurodd fel a ganlyn:

There are also genuine concerns about the likely ineffectiveness of a ban, including some evidence from overseas that a ban could have unintended and counter-productive consequences for public safety […]While people who want to ban the public from buying and using fireworks have valid concerns that must be addressed, we cannot support a ban before other, less drastic but potentially more effective, options have been fully explored. 

Ym mis Tachwedd 2023, ymatebodd Llywodraeth y DU i ddeiseb a oedd yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor. Dywedodd ei bod o’r farn fod y fframwaith deddfwriaethol sy’n rheoli tân gwyllt yn taro’r cydbwysedd cywir ac nad oes ganddi unrhyw gynlluniau i’w ddisodli ar hyn o bryd.

Mae yna hefyd nifer o ddeisebau’r DU sy’n agored sy'n ymwneud â gwaharddiad ar werthu tân gwyllt i’r cyhoedd.

4.     Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020

Pennodd Deddf Marchnad Fewnol y DU 2020 reolau newydd ar gyfer rheoleiddio nwyddau ledled y DU. Sefydlodd y Ddeddf egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol a pheidio â gwahaniaethu, a'u hymgorffori yng nghyfraith y DU fel Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad.

O dan yr egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol, os yw nwydd yn cydymffurfio â rheolau sy'n ymwneud â'i werthu yn y rhan o'r DU lle cafodd ei gynhyrchu neu ei fewnforio iddi, gellir ei werthu mewn unrhyw ran arall o'r DU heb orfod bodloni’r  safonau yn y rhannau eraill hynny, hyd yn oed os ydyn nhw'n wahanol.

O dan yr egwyddor peidio â gwahaniaethu, nid yw unrhyw reolau sy'n rheoleiddio sut y dylid gwerthu nwyddau mewn un rhan o'r DU sy'n gwahaniaethu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn erbyn darparwyr o rannau eraill o'r DU yn berthnasol yn gyffredinol.

Gallai cyflwyno gwaharddiad ar werthu tân gwyllt yng Nghymru ddod o fewn cwmpas yr Egwyddorion Mynediad i'r Farchnad. Gallai hyn effeithio ar nod y gwaharddiad hwnnw a’r gallu i’w orfodi.

Mae'r adroddiad blynyddol ar weithrediad atodiadau’r farchnad fewnol 2023-24 yn nodi cyflwyno Deddf Tân Gwyllt ac Eitemau Pyrotechneg (Yr Alban) 2022.